Dewiswch Fywyd

ʻDisgwyl wrth yr Arglwydd, bydd gryf a gwrol dy galon.’ Salm 27.

Cafwyd dros 200,000 o erthyliadau ym Mhrydain Fawr y llynedd, a bellach ceir erthylu ledled ynys Iwerddon. Mae gennym ni, yr Eglwys Gatholig, neges o obaith a stori o gariad; gyda’n gilydd gallwn hybu parch at fywyd.

Rydym yn galaru dros fywydau a gollwyd trwy erthylu. Rydym yn ceisio newid meddyliau a chalonnau ynghylch urddas cynhenid y plentyn yn y groth a gofal am fenywod beichiog. Ysgrifenna’r Pab Francis, ʻMae’r rhodd o blentyn newydd, wedi ei ymddiried gan yr Arglwydd i dad a mam, yn dechrau trwy ei dderbyn, yn parhau trwy ei warchod gydol oes, a’r nod yw bywyd tragwyddol … Oherwydd mae Duw yn caniatáu i rieni ddewis yr enw y mae Ef yn ei alw arno am byth bythoedd.’ Amoris Laetita (Llawenydd Cariad166).

Sut y gall plwyfi a chymunedau Catholig fod yn llefydd i groesau, cynorthwyo a chefnogi?

Ar y pumed penblwydd ar hugain hwn o lythyr St Ioan Pawl II, Evangelium Vitae (Efengyl Bywyd), rydym unwaith eto yn galw am barchu a dathlu bywyd i gyd.

Mae’r plwyf yn ʻdeulu o deuluoedd’ (Amoris Laetita 87).

Rydym yn gofyn i’n plwyfi fod yn llefydd o groeso lle gallwn gefnogi menywod beichiog a dathlu’r rhodd werthfawr a ymddiriedwyd iddynt. Rydym yn cydnabod bod y teulu yn fynych yn ʻgymysgedd heriol sy’n cynnwys llawer o elfennau gwahanol, pob un â’i achlysuron llawen, ei obeithion a’i anawsterau.’ (Amoris Laetitia, 57).

Rydym eisiau bod yn gefn i fenywod a dynion sy’n wynebu amgylchiadau anodd, yn ogystal ag i’r rheini sydd wedi cael erthyliad ac sy’n ceisio lloches yn yr Arglwydd a’u cymuned.

Ein haddewid ni

ʻFel Catholig, rwy’n addo meithrin diwylliant o groesawu a derbyn bywyd newydd. Byddaf yn gweddïo a gweithio dros well amddiffyn cyfreithiol i fenywod beichiog a’r plentyn yn y groth.’

Gobaith ac iacháu ar ôl erthyliad

Nid yw Duw yn atal ei faddeuant i’r rheini sy’n ei geisio â chalonnu diffuant. Ond hyd yn oed wedi inni gyffesu ein pechodau a derbyn gollyngdod, nid ydym bob amser yn barod i faddau i’n hunain. Mae yna lawer o fenywod a dynion sy’n dal i fyw, flynyddoedd yn ddiweddarach, gyda chreithiau emosiynol ac ysbrydol erthyliad. Rhaid i’n cenhadaeth er hybu parch at fywyd gynnwys helpu’r menywod a’r dynion hyn i gymodi â’u hunain, eu plentyn coll a’r Duw nad yw erioed wedi peidio â’u caru.

Yn yr Arglwydd gallwn brofi tangnefedd: ʻA dyma obaith na chawn ein siomi ynddo, oherwydd y mae cariad Duw eisoes wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy’r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi inni.’ (Rhufeiniaid 5:5).

ʻCaitlin yw fy enw* ac rwy’n 28 oed. Pan feichiogais am y tro cyntaf bum mlynedd yn ôl, cefais erthyliad. Rwyf wedi byw gyda phoen y profiad hwn, yn ogystal â theimladau o golled, dryswch ac unigrwydd. Pan euthum ar encil i Rachel’s Vineyard, rhoddwyd imi yr amser a’r gofod i enwi’r plentyn roeddwn wedi ei golli a chael iachâd a maddeuant yn yr Arglwydd.

*Newidiwyd yr enw i amddiffyn hunaniaeth y fam.

I ddysgu rhagor am Rachel’s Vineyard a mentrau Catholig eraill yn yr ardal hon, ewch i www.dayforlife.org.

A ydych angen rhywun i siarad wrthi / wrtho? Os ydych yn chwilio am gymorth cyfrinachol a di-dâl, galwch y llinell gymorth ar gyfer beichiorwydd ar 0808 802 5433 neu testunwch Pregnancy Matters ar 0786 007 339.

Diwrnod Bywyd

Mae Diwrnod Bywyd yn cael ei ddathlu’n flynyddol gan yr Eglwys Gatholig yn Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Chymru. Diwrnod ydyw wedi ei neilltuo i godi ymwybyddiaeth am ystyr a gwerth bywyd dynol ym mhob cyfnod ohono a phob cyflwr. Bydd yr elw o’r casgliad Diwrnod Bywyd a gynhelir mewn plwyfi yn cael ei ddefnyddio at hybu urddas y person dynol trwy ddosbarthu grantiau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan brosiectau sy’n cefnogi’r amcan hwn, ac eleni rydym yn rhoi croeso arbennig i’r rheini sy’n gweithio gyda menywod beichiog, teuluoedd a’r rheini sydd wedi dioddef poen erthyliad. Diolchir yn fawr am eich rhodd.

Ymddiriedolaeth Gatholig i Loegr a Chymru, 39 Sgwâr Eccleston, Llundain SW1V 1BX. Cwmni cyfyngedig trwy warrant a chofrestredig yn Lloegr a Chymru. Cwmni Rhif 4734592, Rhif Elusen 1097482