2018 Day for Life: Masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern

Tystiolaeth

“Fy enw yw Daia*.  Rwy’n dod o dref fechan yn Nhalaith Edo, Nigeria.  Roedd fy nheulu yn dlawd iawn, ac o oed cynnar roeddwn wastad yn ceisio ʻbywyd gwell’. Yn 18 oed mi wnes i gyfarfod â Victor*, o Lagos a syrthio mewn cariad ag ef.  Roeddwn yn edmygu ei ddillad hardd a’i hyder yn fawr. Awgrymodd Victor ein bod yn mynd gyda’n gilydd i Lundain – dywedodd fod ganddo ffrindiau yno a swydd ar fy nghyfer yn glanhau mewn salon trin gwallt. Roeddwn wedi cynhyrfu’n lân. Teithiodd Victor o’m blaen a byddwn innau’n ei ddilyn. Wedi taith hir cyrhaeddais Ddulyn. Doeddwn i rioed wedi clywed am y lle hwn ond tybiwn mai rhywle i dorri’r siwrnai ydoedd ar fy ffordd i Lundain. Roedd Victor wedi trefnu i rywun gwrdd â fi. Aeth y dyn hwn â mi yn ei gar. Ond aethom ni ddim at Victor, nac i’r salon trin gwallt, nac i Lundain. Aeth â mi i buteindy ac yma yr wyf byth oddi ar hynny.”

*Mae hon yn stori wir. Newidiwyd yr enwau er mwyn diogelu cyfrinachedd.

Masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern

 Dywed Iesu wrthym, “Yr wyf wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder .” (Ioan 10:10 BCN). Ond mae llawer sydd ddim yn cael bywyd yn ei holl gyflawnder. Aethant yn ysglyfaeth i bla masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern sydd yn ymosodiad ar urddas cynhenid yr unigolyn. Nid nwyddau yw pobl i’w gwerthu’n ddidrugaredd er mwyn i ddihirod elwa.

Mae hyn yn rhywbeth sy’n digwydd mewn cymunedau trwy’n gwlad, ac nid yn ein dinasoedd mawr yn unig. Nid yw’n digwydd mewn puteindai a siopau ewinedd yn unig, ond ar ffermydd, safleoedd adeiladu a ffatrïoedd hefyd. Nid yw’n broblem sy’n gyfyngedig i gymunedau o fewnfudwyr ychwaith, mae’n effeithio ar ein dinasyddion ein hunain hefyd.

Mae masnachu pobl yn ddrwg sydd ar gynnydd, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod dros 40 miliwn o bobl ledled y byd mewn caethiwed.  Yn y DU yn unig, amcangyfrifir bod dros 13,000 o bobl o bob gwlad yn mynd yn ysglyfaeth i’r masnachu hwn.

Mae troseddwyr yn manteisio ar rai o’r bobl fwyaf bregus ac enbyd eu byd. Gallwn weithredu ynghyd i atal hyn. Mae’n drosedd sydd wedi ei guddio yn yr amlwg, mae’n anodd ymchwilio iddo, ac mae’r heddlu angen ein help i adnabod ac atal y masnachwyr ac i achub a chynnal y dioddefwyr.

 

Sut y gallwn ni helpu?

Gall y gymuned Gatholig wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gynorthwyo i ddatrys y drwg hwn, helpu pobl i gael rhyddid a byw bywyd yn ei holl gyflawnder. Mae yna amryw o gyrff sy’n gweithio i roi terfyn ar fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.  Mae un o’r rhain, Grŵp Santa Marta, yn gweithio’n rhyngwladol i ddod â’r Eglwys Gatholig ac asiantaethau gorfodi cyfraith ynghyd er mwyn dileu caethwasiaeth. I ddarllen rhagor am y gwaith hwn, ewch i www.santamartagroup.com. Yn lleol, gall Caritas a chymunedau eglwysig beri newid go iawn i fywyd pobl a fasnachir sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.

 

Rhowch at yr achos

Mae Diwrnod dros Fywyd yn cael ei ddathlu bob blwyddyn gan yr Eglwys Gatholig yn Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Chymru. Mae’n ddiwrnod â’r amcan o godi ymwybyddiaeth am ystyr a gwerth bywyd dynol bob cam o’r ffordd ac ymhob cyflwr. Mae derbyniadau casgliad Diwrnod dros Fywyd, casgliad i’w gynnal mewn plwyfi, yn cael eu defnyddio i hybu urddas y person dynol. Bydd arian a gasglwyd ar gyfer Diwrnod dros Fywyd yn cael ei wario ar brosiectau sy’n cefnogi gwaith a wneir  yn y maes hwn gan gyrff sy’n hyrwyddo’r nod hwn. Gwerthfawrogir eich rhodd yn fawr.

Am ragor o wybodaeth, ac i roi ar-lein, ewch, os gwelwch yn dda, i: www.dayforlife.org/donate

WWW.DAYFORLIFE.ORG