Fy Mab Raphael

Mae’n union 50 mlynedd ers pasio Deddf Erthylu 1967 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae erthylu’n dal yn anghyfreithlon yn y rhan fwyaf o Iwerddon er bod yna ymdrechion i newid y gyfraith ar y ddwy ochr i’r ffin. Yn Weriniaeth Iwerddon mae ymgyrch ar y gweill ar hyn o bryd i ddileu’r erthygl o blaid bywyd o’r Cyfansoddiad.

Mae’r flwyddyn ben-blwydd hon yn gyfle i ni fyfyrio, gweddïo a chynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’r rhai mewn angen. Rydym yn gweddïo’n enwedig dros y rhai sydd wedi colli plentyn a thros y rhai sy’n bryderus am eu beichiogrwydd.

Mae llawenydd cwpl wrth feddwl am ddod yn rieni’n troi’n anobaith os bydd y fam yn colli’r baban neu os yw’r baban yn cael ei eni’n farw. Collodd Caroline ei chweched baban, Raphael, yn ystod y 14eg wythnos o’i beichiogrwydd yn 2013. Gofynodd hi a’i gŵr i’r offeiriad gynnal angladd a gwasanaeth claddu. “Roedd gwneud rhywbeth ymarferol i nodi’n colled yn gymaint o iachâd. Roedd yn ein hatgoffa fod y baban yn berson go iawn. Roedd enwi’r baban yn bwysig hefyd. Y ffordd rydym ni’n edrych ar hyn yw fod gennym blentyn wedi cyrraedd y nefoedd o’n blaenau ni, yn gweddio drosom.”

Mae galar hefyd yn gallu bod yn gysylltiedig ag erthyliad. Mae Laura, a gafodd erthyliad ar wyth wythnos, yn disgrifio’r eiliad, flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ddaeth i gydnabod ei bod wedi terfynu bywyd. Digwyddodd pan welodd grŵp o blant ysgol gynradd a sylweddoli y byddai’i baban hithau’r un oed. Ei cham nesaf oedd Cyffesu. Meddai, “Dim ond y dechrau yw dod i ddeall y gwirionedd am erthylu. Gyda maddeuant, mae pwysau’r cywilydd ac euogrwydd yn cael ei godi am byth.”

Mae’r Pab Ffransis, wrth ein hatgoffa am ddysgeidiaeth gyson yr Eglwys, yn disgrifio erthyliad fel pechod difrifol. Fel bugail trugarog, fodd bynnag, mae’n atgoffa offeiriadon eu bod yn cael eu galw i fod yn weinyddwyr trugaredd Duw. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad ydym wedi gwneud digon i gefnogi merched beichiog mewn sefyllfaoedd anobeithiol sy’n gweld erthylu fel ateb cyflym.

Nid oedd Jenny’n gallu gweld unrhyw ddyfodol iddi hi na’i baban pan sylweddolodd ei bod yn feichiog, a hithau’n ddigartref ac mewn dyled. Ond gofynnodd am gymorth a chafodd ystafell mewn tŷ yn cael ei redeg gan elusen o blaid bywyd, Life Housing, ble, erbyn hyn, mae hi’n byw gyda’i mab Oliver. Cafodd ddillad, teganau ac anrhegion Nadolig i’r baban gan blwyf Catholig lleol a coets ac offer eraill gan elusen leol. Cafodd gymorth i glirio ei dyledion a chyn bo hir bydd y fam a’r baban yn symud i’w cartref cyntaf, tŷ dwy lofft wedi’i ddodrefnu trwyddo draw. Pan oedd Jenny ar ei mwyaf bregus, roedd darganfod nad oedd hi ar ei phen ei hun wedi archub ei bywyd, a bywyd Oliver.

Gweddi

Gweddi i Fair, Mam y Bywyd Tu Mewn:

O Fair, Fam y Bywyd Tu Mewn,
rydym yn ymddiried pob bywyd i ti;
Bywyd pob mam feichiog
a’r plentyn yn ei chroth:
Bywyd pob corff dynol,
bywyd pob enaid dynol;
Bywyd pob plentyn newydd anedig
a bywyd pawb sydd wedi tyfu’n hen.
Cedwaist yr Arglwydd yn agos at dy galon di
a’i dynnu atat yn dynn.
Tynna ni felly yn ein holl anghenion,
O Fam y Bywyd Tu Mewn.
Amen.