Y flwyddyn ddiwethaf oedd y danbeitiaf a gofnodwyd.
Mewn pentref bach yn India, mentrodd Jejabba i’r gwres canol-dydd er mwyn cysgodi ei fuchod ger celli mango. Cyrhaeddodd adref wedi sychu a bu farw cyn gallu cyrraedd yr ysbyty. Roedd yn 63 oed.
Nid yw achos Jejabba yn unigryw. Bu farw 4,500 o bobl yn India a Pakistan yn ystod y don wres y llynedd. Mae cynnydd mewn tymheredd yn gwneud cyfnodau o sychder yn llymach a llifogydd yn rymusach. Y tlodion sy’n dioddef fwyaf bob tro.
Y llynedd, cyhoeddodd y Pab Ffransis ei gylchlythyr pwysig ar y berthynas rhwng pobl sanctaidd Duw a’r greadigaeth – Laudato Si’. Atgoffodd ni yn huawdl ein bod yn un teulu dynol sy’n rhannu cartref cyffredin ac yn dibynnu ar ein gilydd a’r greadigaeth gyfan. Mae’n ddyletswydd arnom i “dalu sylw arbennig i’r rhai mwyaf bregus.” Dywedodd,
“Trwy esgeuluso cadw golwg ar y niwed a wneir i natur ac effaith ein penderfyniadau ar yr amgylchedd gwelir ar ei amlycaf ddibristod o’r neges sy’n rhan o natur ei hun. Pan fethwn â chydnabod fel rhan wirioneddol o fywyd werth person tlawd, embryo dynol, rhywun a chanddo anableddau – i nodi dim ond ychydig o esiamplau – daw’n anodd clywed cri natur ei hun; mae pob dim wedi ei gydgysylltu.” (Y Pab Francis, Laudato Si’
Pan gydnabyddwn a rhyfeddu fwyfwy ein bod i gyd yn frodyr a chwiorydd sy’n byw mewn cartref cyffredin, bydd hyn yn effeithio nid yn unig ar ein triniaeth o’r amgylchedd ond hefyd, yn bwysicach, ar ein gofal dros ein gilydd, sut yr ydym yn croesawu a derbyn pobl a chanddynt wahanol anghenion a galluoedd, ffoaduriaid, yr oedrannus, y rheini heb eu geni, y rhai anghofiedig a gadawedig.
Bydd rhyfeddu mwy yn gymorth inni drysori rhodd bywyd yn ddyfnach.
Gweddi
Gweddi i ddyfnhau ein rhyfeddod at rodd bywyd (o Laudato Si’)
O Dduw hollalluog, rwyt ti’n bresennol trwy’r holl fydysawd
ac yn y lleiaf o’th greaduriaid.
Rwyt ti’n cofleidio’n dyner bob dim sy’n bodoli.
Tywallt arnom rym dy gariad
er mwyn inni warchod bywyd a harddwch.
Llenwa ni â’th dangnefedd er mwyn inni fyw
fel brodyr a chwiorydd, heb ddrygu neb.